This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Digwyddiadau

Cyfnodolyn SSCE Cymru

Mae cyfnodolyn SSCE Cymru yn rhoi trosolwg o'r gweithgareddau a'r digwyddiadau y mae aelodau tîm SSCE Cymru wedi bod yn rhan ohonynt.

Ion
23

Mae RAF St Athan yn dathlu ysgolion lleol yn derbyn eu statws Efydd Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru.

Ionawr 2023

Cynhaliodd RAF St Athan ddigwyddiad i ddathlu bod dwy ysgol lleol sef Ysgol Uwchradd Llantwit Major ac Ysgol Gynradd St Athan wedi derbyn statws Efydd Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru. 

Tach
22

Coffau

Tachwedd 2022

Ar gyfer holl weithgareddau coffau byddwn yn anrhydeddu’r rhai sydd wedi colli eu bywydau dros eraill. Dydi coffau ddim yn clodfori rhyfel ond yn cydnabod yn barchus yr aberthau a wneir ar gyfer dyfodol heddychlon. 

Meh
22

Mae Adran Iau Mount Street wedi cyflawni eu Statws Efydd Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru

Mehefin 2022

Ym Mehefin 2022, dathlodd Ysgol Iau Mount Street yn Aberhonddu, Powys, eu bod nhw yr ysgol gyntaf yng Nghymru i sicrhau statws Efydd  Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru .

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan