Mae gan Wasanaethau Plant y Weinyddiaeth Amddiffyn gyfrifoldeb am swyddogaethau, i gefnogi teuluoedd y lluoedd arfog mewn perthynas ag addysg a gofal, a gyflawnwyd yn flaenorol gan Blant a Phobl Ifanc y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae Gwasanaethau Plant y Weinyddiaeth Amddiffyn yn sefydliad o dan Awdurdod Rhanbarthol y Fyddin. Swyddogaeth Gwasanaeth Plant y Weinyddiaeth Amddiffyn yw cefnogi plant y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd gydag anghenion addysgol.
Mae’r Gwasanaeth yn darparu ffocws ar gyfer holl faterion sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc y Lluoedd Arfog, gan ddarparu addysg ansawdd uchel mewn 22 o ysgolion a lleoliadau o amgylch y byd. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn rhoi cefnogaeth uniongyrchol i deuluoedd y Lluoedd Arfog, gan ddarparu cyngor ar ystod eang o faterion addysgol, dramor ac yn y DU, wedi’i ddarparu gan dimoedd ymgynghori ac addysgol arbenigol.