TGP Cymru – Dulliau Adferol ar gyfer Cyn-filwyr a Gwasanaethau i Deuluoedd
Drwy helpu cyn-filwyr, y rhai sy’n gadael y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd i adnabod eu cryfderau, eu sgiliau, eu hadnoddau a’u hanghenion, bydd TGP Cymru yn galluogi ac yn grymuso cyn-filwyr, cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog a phob aelod o’u teuluoedd i gyfathrebu’n ddiogel, i ddeall ei gilydd, i feithrin perthynas, i ddatrys anghydfodau ac i gynllunio ar gyfer newidiadau cadarnhaol cynaliadwy ym mywydau’r rheini sy’n profi’r effeithiau mwyaf.
Drwy weithio ochr yn ochr â therapydd GIG Cymru i Gyn-filwyr, bydd yn ymgysylltu â phob cyn-filwr a phob cyn-aelod o’r Lluoedd Arfog a gaiff ei atgyfeirio, yn ogystal ag aelodau eu teuluoedd, am gyfnod o tua chwe mis. Bydd yr ymyriad yn cynnwys sesiynau i unigolion, grwpiau a theuluoedd a bydd yn helpu’r teulu i ddod o hyd i atebion gyda’i gilydd i alluogi pawb sy’n gysylltiedig i symud ymlaen.
www.tgpcymru.org.uk