Mae Sefydliad y Teulu yn elusen gofrestredig sy'n gweithredu ledled Cymru. Maent yn gweithio'n agos iawn gydag unigolion yn y gymuned, cyn-filwyr a chymuned y Lluoedd Arfog, grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol, elusennau, ysgolion, sefydliadau ieuenctid a chwmnïau buddiannau cymunedol.
Mae ymateb i anghenion cymunedau yn allweddol i werthoedd Sefydliad y Teulu. Maent yn angerddol am hyrwyddo cydraddoldeb i bawb, hyrwyddo sgiliau bywyd, lliniaru tlodi a'r problemau sy'n gysylltiedig ag ef ac maent am feithrin diwylliant o ddeall, cefnogi a dysgu gyda'i gilydd. Mae gwaith Sefydliad y Teulu yn sail i strategaethau cenedlaethol drwy fynd i'r afael â thlodi, creu cymunedau mwy gwydn drwy hyfforddiant, datblygu cymunedol a lles meddyliol a chefnogaeth emosiynol.
Mae gan Sefydliad y Teulu Academi Sgiliau Digidol AM DDIM ar-lein i unrhyw un ei defnyddio i ymgymryd â dysgu Bitesize o gysur cartref, pob cwrs yn parhau 1-2 awr. Maent hefyd yn cynnal rhaglen ddysgu Achrededig o Gyrsiau L1/2/3 i'r rhai sydd angen cymorth yn ôl i'r gwaith, i ail-hyfforddi neu eisiau dechrau busnes neu weithio yn y sectorau gwirfoddol.
Mae Sefydliad y Teulu yn gweithio gyda chymuned y Lluoedd Arfog i gefnogi cyn-filwyr, eu teuluoedd, gofalwyr ac aelodau estynedig o'r teulu. Maent yn cefnogi'r uned gyfan i ffynnu a chael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.