Cronfa Lles yr Awyrlu Brenhinol yw prif elusen lles yr RAF ac yn gwario dros £17 miliwn y flwyddyn i ddiwallu anghenion Teuluoedd yr RAF. Mae’n darparu ystod o wasanaethau cefnogi ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â rhieni’n gwasanaethu yn yr RAF, o’r rhaglen cefnogi ieuenctid gwerth miliynau, sef Airplay, i’r Gwasanaeth Gwrando a Chwnsela.
Airplay a Ben Clubs
Airplay a Ben Clubs yw rhaglenni cefnogi ieuenctid Cronfa Lles yr RAF, gan ddarparu sesiynau clwb ieuenctid mewn gorsafoedd RAF, a mynediad at y cyfrwng digidol Airplay Connect, sydd wedi’i ddatblygu ar gyfer plant sy’n byw mewn ac i fwrdd o’r gorsafoedd. Mae Airplay yn cael ei ddarparu mewn 24 o orsafoedd ar draws y wlad ac mae’n darparu gweithgareddau diogel, dan oruchwyliaeth ar gyfer plant a phobl ifanc pump i ddeunaw oed trwy rwydwaith o weithwyr ieuenctid hyfforddedig. Mae hyn yn cynnwys ein Ben Clubs, sydd wedi’i anelu tuag at blant pump i saith oed. Mae Airplay yn RAF y Fali yn cael ei ddarparu gan Weithiwr Ieuenctid yr Orsaf o dan gontract gan ein partner One YMCA. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch gydag airplay.team@oneymca.org.
Gwasanaeth Gwrando a Chwnsela
I gefnogi plant a phobl ifanc o Deuluoedd yr RAF, rydym wedi lansio gwasanaeth cwnsela arbenigol. Mae’r gwasanaeth, a ddarperir trwy ein partner Relate, ar gael i blant a phobl ifanc 11 i 18 oed ac ar sail achos i achos ar gyfer y rhai 5 i 10 oed. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth ar ystod eang o faterion lles ac iechyd meddwl, gan gynnwys gorbryder, hwyliau isel, arwahanrwydd a newid mewn teulu, rhywioldeb, bwlio a phwysau academaidd. I ddarganfod mwy, ffoniwch ein llinell gymorth ar 0300 222 5703 neu support@rafbf.org.uk