Mae’r Blobs yn syml. Maen nhw’n delio â materion dwys drwy ddefnyddio’r ieithoedd syml a ddysgwn yn ein plentyndod: teimladau ac iaith y corff. Dyma’r rheswm dros eu defnyddio gyda phlant mor ifanc â phedair oed a phawb arall, yn cynnwys yr henoed.
Mae pob darlun yn fan cychwyn i sgwrs, yn hytrach na phroblem i’w datrys neu neges i’w chytuno. Mae pob un ohonom yn gweld y byd drwy ein llygaid ein hunain. Drwy adael i eraill rannu eu teimladau, mae aelodau’r grwpiau yn gallu deall a gwerthfawrogi ei gilydd.
Pan ydym yn blant, mae ein teimladau’n dweud un peth, mewn ffordd fwy pur weithiau na phan fyddwn yn oedolion. Mae’r ysgol yn dechrau annog plant i ddeall eu teimladau a’u meistroli. Ar gyfer pob un ohonom, mae llythrennedd emosiynol yn siwrnai i ddeall ein hunain.
Relevant resources