Mae Never Such Innocence yn darparu’r offer i blant a phobl ifanc (9 - 18) i adlewyrchu ar realiti rhyfel a gwrthdaro. Rydym yn meithrin y genhedlaeth nesaf o feddylwyr, arweinwyr a heddychwyr trwy’r celfyddydau; gan ysbrydoli cyfnewid diwylliannol a dialog. Rydym yn ategu lleisiau plant a phobl ifanc dros y byd i gyd.
Mae ein Rhaglen Lleisiau Plant y Lluoedd Arfog yn gwahodd plant, 6-18 oed, o gyn aelodau neu aelodau sy’n gwasanaethu yn y Fyddin, y Llynges Frenhinol a’r RAF, i adlewyrchu ar beth mae bywyd yn y lluoedd arfog yn ei olygu iddyn nhw, gan ddefnyddio barddoniaeth, celf, llais ac ysgrifennu caneuon.
Mae Côr Lleisiau Plant y Lluoedd Arfog yn grwp o blant o’r tri gwasanaeth, sy’n 6-18 oed, ar draws y DU sydd wedi dod ynghyd i ganu ar gyfer ystod eang o achlysuron! Sefydlwyd y côr gan Never Such Innocence fel rhan o Raglen Lleisiau Plant y Lluoedd Arfog. Rydym yn annog plant aelodau gwasanaeth, sydd yn gwasanaethu ar hyn o bryd, neu’n gyn aelodau, i rannu sut mae bywyd iddyn nhw.
Adnoddau perthnasol