Mae Ysgolion sy’n Feddyliol Iach yn dod â gwybodaeth, cyngor ac adnoddau o ansawdd ynghyd i helpu ysgolion cynradd, uwchradd a lleoliadau Addysg Bellach i ddeall a hyrwyddo iechyd meddwl a lles plant.
Mae Ysgolion sy’n Feddyliol Iach yn dod â gwybodaeth, cyngor ac adnoddau o ansawdd ynghyd i helpu ysgolion cynradd, uwchradd a lleoliadau Addysg Bellach i ddeall a hyrwyddo iechyd meddwl a lles plant. Datblygwyd y wefan yn wreiddiol mewn partneriaeth rhwng Anna Freud, Young Minds, Place2Be a’r Sefydliad Brenhinol, ac mae’n parhau i fod yn rhan allweddol o gynnig iechyd meddwl a lles Anna Freud i leoliadau addysg ar draws y DU.
Mae’r wefan Ysgolion sy’n Feddyliol Iach yn cynnwys llyfrgell adnoddau ar gyfer y dosbarth a chefnogi lles gyda dros 200 o adnoddau ymarferol am ddim, yn ogystal â hwb adnoddau iechyd meddwl er mwyn helpu datblygu dull ysgol gyfan neu goleg cyfan i les meddyliol.
Hefyd fe allwch gofrestru i gael cyfrif rhad ac am ddim sy’n eich galluogi chi i arbed yr adnoddau sydd orau gennych a derbyn pecyn gwaith misol o adnoddau ar thema fel Wythnos Iechyd Meddwl Plant, cyfnodau pontio neu straen arholiadau.