Anelu at Ragoriaeth mewn Ysgolion ar Draws y Rhanbarth
Gan weithio gyda chynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Mynwy, Casnewydd a Thorfaen, mae'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn anelu at wella addysg a hybu gwasanaethau rheng flaen.
Cyflawnir hyn drwy ganolbwyntio ar wella, cefnogaeth a dysgu proffesiynol. Yn sail i’r gwaith mae ein gwerthoedd craidd sef rhagoriaeth, arloesedd, cywirdeb, cydweithio ac atebolrwydd.
Cenhadaeth y Gwasanaeth Cyflawni Addysg
Gan weithio gyda’n partneriaid allweddol, nod y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yw trawsnewid y canlyniadau addysgol a chyfleoedd bywyd ar gyfer yr holl ddysgwyr ar hyd a lled De Ddwyrain Cymru drwy:
- Sicrhau profiadau dysgu llwyddiannus a lefelau uchel o ran lles, yn arbennig ar gyfer y dysgwyr hynny sy’n wynebu’r heriau mwyaf;
- Creu rhwydweithiau effeithiol o weithwyr proffesiynol ar hyd a lled y pum awdurdod lleol a thu hwnt, a chydweithio i wella arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu a;
- Denu a chynnal tîm o bobl eithriadol sy’n ymgorffori ein gwerthoedd craidd yn eu gwaith ac yn rhannu angerdd am ragoriaeth.