Ariannu

Schools & LAs

Ariannu

Mae ysgolion ledled Cymru’n bod yn rhagweithiol iawn ac yn gwneud gwaith gwych i sicrhau nad yw plant y Lluoedd Arfog dan anfantais o ganlyniad i effaith bod yn rhan o un o deuluoedd y Lluoedd Arfog.

Weithiau mae angen i ysgolion ac awdurdodau lleol gael at gyllid ychwanegol er mwyn parhau i gefnogi plant y Lluoedd Arfog yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae SSCE Cymru yn cydnabod nad yw bob amser yn hawdd darganfod pa gyllid sydd ar gael, pa grantiau sydd fwyaf perthnasol i brosiect a beth yw’r ffordd orau o fynd ati i lenwi’r ffurflenni cais.

Am y rhesymau hyn rydym yn hapus i gynnig cymorth ac arweiniad gyda chyfleoedd cyllido.

Weithiau mae angen i ysgolion ac awdurdodau lleol gael at gyllid ychwanegol er mwyn parhau i gefnogi plant y Lluoedd Arfog yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae SSCE Cymru yn cydnabod nad yw bob amser yn hawdd darganfod pa gyllid sydd ar gael, pa grantiau sydd fwyaf perthnasol i brosiect a beth yw’r ffordd orau o fynd ati i lenwi’r ffurflenni cais.

Am y rhesymau hyn rydym yn hapus i gynnig cymorth ac arweiniad gyda chyfleoedd cyllido.

Arolwg ysgolion SSCE Cymru (2019)

Yr heriau mwyaf arwyddocaol maent yn eu hwynebu wrth gefnogi plant y Lluoedd Arfog: nododd 25% o ysgolion cynradd mai Cyllid ydoedd.

Cyngor SSCE Cymru ar gyllid

Mae’r ddogfen hon yn darparu cyngor gan dîm SSCE Cymru i ysgolion ac awdurdodau lleol i’w cynorthwyo wrth wneud cais am gyllid i gefnogi plant y Lluoedd Arfog / cymuned leol y Lluoedd Arfog.

Cyngor cyffredinol yw hwn ac nid yw’n benodol ar gyfer unrhyw ffrwd ariannu benodol.

Mae’r ddogfen hefyd yn cynnwys rhestr wirio o gamau gweithredu a awgrymir i helpu wrth baratoi a chwblhau ffurflen gais am gyllid a rhestr o syniadau ac awgrymiadau am gyllid.

Gallwch lawrlwytho dogfen gynghori SSCE Cymru yma

Cronfa Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg yng Nghymru (2024/25)

Caiff Cronfa Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg yng Nghymru (SCCE-WF) ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan SSCE Cymru a gynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Gall ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru wneud cais am £1,000 neu £3,000 i gyflawni prosiect ym mlwyddyn academaidd 2024/25 i gefnogi plant y Lluoedd Arfog.
Prosiectau £1,000 – ar agor i’r holl ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru.
Prosiectau £3,000 – ar agor i ysgolion sydd wedi ennill statws Efydd Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru a’r holl awdurdodau lleol.

Gellir gwneud cais am y cyllid hyd at 21 Mawrth 2025 a bydd yn cael ei adolygu’n dymhorol.

Y dyddiadau cau yw:
- 25 Hydref 2024
- 13 Rhagfyr 2024
- 7 Chwefror 2025
- 21 Mawrth 2025
- 3 Mehefin 2025 (gyda’r canlyniadau’n cael eu derbyn erbyn 6 Mehefin).

Bydd ceisiadau a gaiff eu cyflwyno yn cael eu hadolygu o fewn 14 diwrnod i’r terfynau amser a nodir uchod.

Trosolwg a chanllawiau 

Enghreifftiau o arfer da 

Cwestiynau ymgeisio (sampl - Word Doc)

Ffurflen gais prosiect £1,000

Ffurflen gais prosiect £3,000

Cefnogaeth rheoli achosion SSCE Cymru

Beth yw diben y cyllid?

Cefnogi lleoliadau addysg i ddarparu ymyriadau ar gyfer plentyn unigol y Lluoedd Arfog neu nifer fechan o blant y Lluoedd Arfog (4-16 oed) ag anghenion penodol sy’n gysylltiedig ag effaith ffordd o fyw yn y Lluoedd Arfog.

Pwy sy'n gymwys?

Ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru.

Beth yw’r blaenoriaethau?

Ymyriadau sy’n cefnogi plant y lluoedd arfog i oresgyn rhwystrau sy’n gysylltiedig â:

  • Lles cymdeithasol / emosiynol
  • Cyrhaeddiad academaidd

Dyddiad cau ceisiadau: Ar gael trwy gydol y flwyddyn.

 

Cyllid grant

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a chyngor ar ymgeisio am y ffrydiau cyllido hyn yn nogfen gynghori SSCE Cymru ar gyllid.

 

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.